Yn angeu Crist caed haeddiant drud I faddeu holl gamweddau'r byd, O flaen yr orsedd buraf sydd: Nis gall euogrwydd yno ddim, Fe gyll melldithion Sinai'u grym, Trugaredd rad a garia'r dydd. Am iddo farw ar y bryn, Ca'dd f'enaid bach ei ganu'n wyn, A'i dynu o'i gadwynau'n rhydd; Wel, bellach dan ei haeddiant Ef, Fel cysgod cedrwydden gref, Gorphwysaf mwy yn ngwres y dydd. Boed oesoedd meithion fwy na mwy, Heb rif na diwedd arnynt hwy, I gânu am ei ddirfawr boen; Na thawed tafod o un rhyw, Na dim o dan y nef sy'n byw, A son am goncwest addfwyn Oen.William Williams 1717-91 Tôn [888D]: Kirby (Heinrich Scheidemann c.1595-1663) gwelir: Gwnaed concwest ar Galfaria fryn Nis gall angylion nef y nef |
In death Christ got a costly merit To forgive all the world's transgressions, Before the purest throne there is: Guilt can do nothing there, Sinai's curse loses it's power, Free mercy shall carry the day. Because he died on the hill, My little soul got bleached white, And pulled free from its chains; See, henceforth under His merit, Like the shadow of a strong cedar, I shall rest evermore in the heat of the day. Let vast ages more than more, Without number nor with any end to them, Sing about his intense pain; Nor let any tongue of any kind be silent, Nor anything under heaven that lives, From telling of a gentle Lamb's conquest.tr. 2021 Richard B Gillion |
|